May 15, 2024
Beth yw Cynnig Cymraeg Darwin Gray?
Gyda thwf pellach yn ein harlwy Cymraeg eleni, erbyn hyn, gallwn gynnig gwasanaethau Cymraeg yn bron i bob un o’n hadrannau.
Gallwn gynnig gwasanaethau cyfreithiol yn y meysydd canlynol drwy gyfrwng y Gymraeg:
Gallwn hefyd gynnig hyfforddiant cyflogaeth ac adnoddau dynol yn y Gymraeg yn ogystal â chynadleddau addysgiadol.
Pam bod ein Cynnig Cymraeg yn bwysig?
Mae’r cyfle i gleientiaid i gyfathrebu yn eu mamiaith yn allweddol. Gall fod yn gysur i gleientiaid sy’n derbyn cyngor cyfreithiol drwy gyfnodau anodd.
Mae cynnig gwasanaethau Cymraeg hefyd yn helpu ein sylfaen o gleientiaid i dyfu ar draws Cymru.
Beth nesaf i Gynnig Cymraeg Darwin Gray?
Agorwyd ein Swyddfa yng Ngogledd Cymru er mwyn lledaenu ein cynnig yn y gogledd. Rydym wedi dyblu (a mwy) yn y nifer o weithwyr Cymraeg sydd yn y swyddfa hynny eleni!
Rydym hefyd wedi cyflogi mwy o siaradwyr Cymraeg yn ein Swyddfa yng Nghaerdydd. Gyda mwy o gynhwysedd i gymryd ymlaen materion Cymraeg – mae ein cynnig yn estyn yn bellach!
Rydym yn awyddus i sicrhau bod ein Cynnig Cymraeg yn tyfu wrth i Darwin Gray dyfu, a byddwn yn parhau i adnabod ein Cynnig Cymraeg fel rhan annatod a phwysig o’n gwasanaeth.