Home » Training and Events » GWEMINAR: Y Newidiadau Mwyaf i Gyfraith Cyflogaeth mewn 30 mlynedd: Yr hyn sydd angen i chi ei wybod

GWEMINAR: Y Newidiadau Mwyaf i Gyfraith Cyflogaeth mewn 30 mlynedd: Yr hyn sydd angen i chi ei wybod

Dydd Iau, 14 Tachwedd, 2024 12:00 - 12:45
Ymunwch â’n cyfreithwyr cyflogaeth mewn gweminar 45 munud rhad am ddim er mwyn deall beth fydd yn newid, beth sydd angen i chi ei wybod, a sut y gallwch baratoi ar gyfer y newidiadau.

Yn dilyn cyhoeddiad diweddar y Llywodraeth ar y Bil Hawliau Cyflogaeth, ymunwch â’n cyfreithwyr cyflogaeth mewn gweminar 45 munud rhad am ddim i ddysgu beth fydd yn newid, beth sydd angen i chi ei wybod, a sut y gallwch baratoi ar gyfer y newidiadau.  Archebwch eich lle nawr.

 

Byddwn yn trafod y canlynol:

  • Hawliau diswyddo annheg o gychwyn y gyflogaeth;
  • Terfynu’r arfer o ddiswyddo ac ail-gyflogi (fire and rehire);
  • Yr ehangiad sylweddol yn nyletswydd cyflogwyr i atal aflonyddu rhywiol;
  • Newidiadau i gontractau dim oriau;
  • Newidiadau i weithio hyblyg, absenoldeb profedigaeth a chyfnod tadolaeth;
  • Y newidiadau y bydd angen i bob cyflogwr eu gwneud i gontractau cyflogaeth;
  • Hawliau pellach i’r rhai sy’n feichiog ac yn dychwelyd o absenoldeb mamolaeth;
  • Newidiadau undebau llafur.

 

Bydd ein cyfreithwyr hefyd yn hapus i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.

 

Manylion y gweminar:

 

Dyddiad: Dydd Iau 14 Tachwedd 2024

Amser: 12y.h.-12:45y.h.

Ar-lein: Byddwch yn derbyn y manylion ymuno a’r dolenni perthnasol cyn y gweminar.

 

Archebwch eich lle nawr.

 

*Bydd y gweminar hefyd yn cael ei gyflwyno trwy gyfrwng y Saesneg ar ddydd Mercher 13 Tachwedd 2024. Ewch i’n tudalen Hyfforddiant a Digwyddiadau am ragor o fanylion.