December 5, 2024
Cwmni cyfreithiol gyda swyddfeydd yng Nghaerdydd a Bangor yw Darwin Gray, ac rydym yn falch iawn o’n gwreiddiau Cymraeg.
“Un o’n USP’s yma yn Darwin Gray yw’r ffaith ein bod ni’n gallu cynnig y mwyafrif o’n gwasanaethau cyfraith fasnachol naill ai’n ddwyieithog neu’n gyfan gwbl trwy gyfrwng y Gymraeg. Rydym yn gweithredu ar ran nifer o sefydliadau blaenllaw sydd yn defnyddio’r Gymraeg, ac yn falch o’n gallu i wneud hynny. Mae siarad Cymraeg a’i ddefnyddio bob dydd yn bwysig iawn i ni. Rydym yn byw yr ethos bod Cymru yn wlad ddwyieithog, lle mae’r ddwy iaith yr un mor bwysig.” – Fflur Jones, Partner Rheoli.
Rydym yn cydnabod pwysigrwydd gallu darparu cyngor dwyieithog i’n cleientiaid, ac fe allwn gynnig gwasanaethau cyfreithiol yn y meysydd canlynol trwy gyfrwng y Gymraeg:
Gallwn hefyd gynnig hyfforddiant yn y Gymraeg yn ogystal â chynadleddau addysgiadol.
Pam fod defnydd o’r Gymraeg yn bwysig i ni?
Yn Darwin Gray, teimlwn fod rhoi’r cyfle i gleientiaid i gyfathrebu â ni trwy gyfrwng y Gymraeg yn allweddol.
“Yn aml bydd cleientiaid, boed yn fudiadau neu yn unigolion, yn dymuno trafod materion cyfreithiol anodd yn eu hiaith gyntaf. Yn hynny o beth, rydym wrth ein boddau yn medru helpu a chynghori cleientiaid yn y Gymraeg ar yr adegau pwysig hynny” – Owen John, Partner Cyflogaeth.
Beth yw’r dyfodol i ddefnydd Darwin Gray o’r Gymraeg?
Bron i dair mlynedd yn ôl, agorwyd ein hail swyddfa yng Ngogledd Cymru er mwyn lledaenu ein cynnig yn y gogledd. Rydym wedi dyblu (a mwy) yn y nifer o weithwyr Cymraeg sydd yn y swyddfa honnn eleni!
Disgrifiodd Siôn Fôn, ein harbenigwr anghydfodau eiddo sy’n gweithio yn swyddfa Bangor, ei fod “wrth ei fodd bod ein holl staff yn ein swyddfa ym Mharc Menai i gyd yn siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf”. Ychwanegodd bod sicrhau bod gan gleientiaid fynediad at gyngor cyfreithiol dwyieithog “yn hynod o bwysig” iddo.
Mae ein hymgynghorydd Adnoddau Dynol, Seren Trigg yn dysgu Cymraeg ar hyn o bryd er mwyn gallu cynnig cyngor AD cyfrwng Cymraeg, gan ddweud ei bod yn “dysgu Cymraeg gyda chefnogaeth Darwin Gray am nifer o resymau. Mae hanner fy nheulu yn Gymry, a bydd fy merch fach yn dysgu Cymraeg yn yr ysgol felly rwyf am fod mewn sefyllfa lle gallaf gefnogi ei dysgu a’i helpu i gofleidio ei hetifeddiaeth hefyd. Fy ngobaith yw i allu cynnig cymorth ac arweiniad i gleientiaid yn y Gymraeg a’r Saesneg”.
Rydym hefyd wedi cyflogi mwy o siaradwyr Cymraeg yn ein swyddfa yng Nghaerdydd. Gyda mwy o gynhwysedd i allu cynghori ar faterion Cymraeg – mae ein cynnig yn cynyddu!
Yn ogystal ag ehangu ein tîm, rydym yn mynd trwy broses o ailfrandio, gan ganolbwyntio’n benodol ar amlygu’r gwerth a roddwn ar ein hunaniaeth Gymreig. Elfen allweddol yw ymgorffori’r gair Cymraeg ‘cyfreithwyr’ yn ein logo newydd – newid pwysig i ni er mwyn adlewyrchu ein hymrwymiad i hybu’r Gymraeg.
Rydym yn awyddus i sicrhau bod ein defnydd o’r Gymraeg yn tyfu wrth i Darwin Gray dyfu, a byddwn yn parhau i ymfalchïo yn ein Cymreictod fel rhan annatod a phwysig o’n gwasanaethau.