Darwin Gray yn Cefnogi’r Ymgyrch ‘Defnyddia dy Gymraeg’

December 5, 2024

 

Cwmni cyfreithiol gyda swyddfeydd yng Nghaerdydd a Bangor yw Darwin Gray, ac rydym yn falch iawn o’n gwreiddiau Cymraeg.

“Un o’n USP’s yma yn Darwin Gray yw’r ffaith ein bod ni’n gallu cynnig y mwyafrif o’n gwasanaethau cyfraith fasnachol naill ai’n ddwyieithog neu’n gyfan gwbl trwy gyfrwng y Gymraeg. Rydym yn gweithredu ar ran nifer o sefydliadau blaenllaw sydd yn defnyddio’r Gymraeg, ac yn falch o’n gallu i wneud hynny. Mae siarad Cymraeg a’i ddefnyddio bob dydd yn bwysig iawn i ni. Rydym yn byw yr ethos bod Cymru yn wlad ddwyieithog, lle mae’r ddwy iaith yr un mor bwysig.”Fflur Jones, Partner Rheoli.

Rydym yn cydnabod pwysigrwydd gallu darparu cyngor dwyieithog i’n cleientiaid, ac fe allwn gynnig gwasanaethau cyfreithiol yn y meysydd canlynol trwy gyfrwng y Gymraeg:

Gallwn hefyd gynnig hyfforddiant yn y Gymraeg yn ogystal â chynadleddau addysgiadol.

Pam fod defnydd o’r Gymraeg yn bwysig i ni?

Yn Darwin Gray, teimlwn fod rhoi’r cyfle i gleientiaid i gyfathrebu â ni trwy gyfrwng y Gymraeg yn allweddol.

“Yn aml bydd cleientiaid, boed yn fudiadau neu yn unigolion, yn dymuno trafod materion cyfreithiol anodd yn eu hiaith gyntaf. Yn hynny o beth, rydym wrth ein boddau yn medru helpu a chynghori cleientiaid yn y Gymraeg ar yr adegau pwysig hynny”Owen John, Partner Cyflogaeth.

Beth yw’r dyfodol i ddefnydd Darwin Gray o’r Gymraeg?

Bron i dair mlynedd yn ôl, agorwyd ein hail swyddfa yng Ngogledd Cymru er mwyn lledaenu ein cynnig yn y gogledd. Rydym wedi dyblu (a mwy) yn y nifer o weithwyr Cymraeg sydd yn y swyddfa honnn eleni!

Disgrifiodd Siôn Fôn, ein harbenigwr anghydfodau eiddo sy’n gweithio yn swyddfa Bangor, ei fod “wrth ei fodd bod ein holl staff yn ein swyddfa ym Mharc Menai i gyd yn siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf”. Ychwanegodd bod sicrhau bod gan gleientiaid fynediad at gyngor cyfreithiol dwyieithog “yn hynod o bwysig” iddo.

Mae ein hymgynghorydd Adnoddau Dynol, Seren Trigg yn dysgu Cymraeg ar hyn o bryd er mwyn gallu cynnig cyngor AD cyfrwng Cymraeg, gan ddweud ei bod yn “dysgu Cymraeg gyda chefnogaeth Darwin Gray am nifer o resymau. Mae hanner fy nheulu yn Gymry, a bydd fy merch fach yn dysgu Cymraeg yn yr ysgol felly rwyf am fod mewn sefyllfa lle gallaf gefnogi ei dysgu a’i helpu i gofleidio ei hetifeddiaeth hefyd. Fy ngobaith yw i allu cynnig cymorth ac arweiniad i gleientiaid yn y Gymraeg a’r Saesneg”.

Rydym hefyd wedi cyflogi mwy o siaradwyr Cymraeg yn ein swyddfa yng Nghaerdydd. Gyda mwy o gynhwysedd i allu cynghori ar faterion Cymraeg – mae ein cynnig yn cynyddu!

Yn ogystal ag ehangu ein tîm, rydym yn mynd trwy broses o ailfrandio, gan ganolbwyntio’n benodol ar amlygu’r gwerth a roddwn ar ein hunaniaeth Gymreig. Elfen allweddol yw ymgorffori’r gair Cymraeg ‘cyfreithwyr’ yn ein logo newydd – newid pwysig i ni er mwyn adlewyrchu ein hymrwymiad i hybu’r Gymraeg.

Rydym yn awyddus i sicrhau bod ein defnydd o’r Gymraeg yn tyfu wrth i Darwin Gray dyfu, a byddwn yn parhau i ymfalchïo yn ein Cymreictod fel rhan annatod a phwysig o’n gwasanaethau.

Read more

Contact Our Team

To speak to one of our experts today, please contact us on 02920 829 100 or by using our Contact Us form for a free initial chat to see how we can help.

Catherine Burke
Partner
View Profile
Damian Phillips
Partner
View Profile
Fflur Jones
Managing Partner
View Profile
Gareth Wedge
Partner
View Profile
Mark Rostron
Partner
View Profile
Nick O’Sullivan
Partner
View Profile
Owen John
Partner
View Profile
Rhodri Lewis
Partner
View Profile
Stephen Thompson
Partner
View Profile

What our clients have said...